Tuesday, 16 January 2018

Datgelu Dirgelwch Bedd Talacharn



Ar 20fed o Ionawr 2018, am 2pm, datgelir dirgelwch bedd ym mynwent St Martin’s Talacharn mewn seremoni goffa yno. Ers degawdau, mae’r bedd, nepell o fynedfa’r eglwys, wedi ennyn chwilfrydedd ymwelwyr. Ar y groes syml ceir y geiriau ‘Leonie Sohy Demoulin’ a ‘A Notre Mère, Regrettée’. Ger y bedd ar un adeg, yn ôl rhai o drigolion hynaf y pentref, roedd hefyd ffotograff o ddynes ac addurn fioledau. Ond ar Ddydd Sadwrn, yn y fynwent lle mae gweddillion rhai llawer mwy enwog megis y bardd Dylan Thomas, y groes newydd ar fedd Leonie fydd yn hawlio’r sylw a dadorchuddio ei hanes hi a’i chyfeillion.

Dywed yr hanesydd lleol, Janet Bradshaw, fu wrthi’n ddygn yn dadorchuddio’r hanes: "Roeddwn wedi fy ngwefreiddio ag eto yn drist o ystyried ffawd y ‘wraig Ffrengig’, fel y disgrifiwyd hi gan rai, a fu farw mor bell o adref. A oedd wedi boddi a golchi i’r lan, megis nifer o’u blaen, neu a oedd wedi dod i’r ardal fel morwyn i un o’r tai bonedd? A beth am ei phlant? Roeddwn yn benderfynol o ganfod ei hanes.”

Wrth wirio ei thystysgrif marwolaeth a chofnodion claddedigaethau’r eglwys, canfu Janet mai gwraig o Wlad Belg oedd Madame Demoulin, a fu’n byw gyda’i gwr yn The Grist, Talacharn, cyn marw yn 58 oed o gyflwr ar ei chalon ar 17eg o Ionawr, 1916. Ei chyfeiriad yng ngwlad Belg oedd  Berchem, maestref porthladd Antwerp, a chynhaliwyd ei angladd gan y Tad Xavier, offeiriad o Wlad Belg a oedd yn aros yn Aberdaugleddau. Dyma oedd yr awgrym cyntaf mai ffoadur o Wlad Belg oedd Leonie a bod trigolion Talacharn, fel nifer o gymunedau, wedi estyn croeso i rai o’r miloedd o ffoaduriaid a gyrhaeddodd Cymru wedi i’r Almaenwyr oresgyn eu gwlad yn 1914. Ychwanegodd Janet Bradshaw: “Roeddwn yn chwilfrydig sut y bu i Monsieur Demoulin druan ymdopi gyda marwolaeth ei wraig ag yntau efallai wrth ei hun mewn gwlad ddiarth, ond roedd yn anodd iawn cael mwy o wybodaeth.”

Ond yna daeth llygedyn o oleuni. Roedd cyd-aelod o’r gymdeithas hanes, Peter Stopp, wedi cyfweld ag athrawes wedi ymddeol, Rosemary Rees, a chanfod fod ei thaid wedi bod yn ganolog yn nhrefniant y Pwyllgor Ffoaduriaid o Wlad Belg. O ganlyniad roedd ganddo nifer of luniau o wahanol aelodau o’r ddau deulu a ddaeth i Dalacharn a oedd bellach ym meddiant ei wyres. Yn ogystal, gyda mwy o fanylion am y ffoaduriaid o hen bapurau newydd yn Llyfrgell Caerfyrddin, bu modd canfod mwy am y ffoaduriaid a ddaeth i Dalacharn.

Dywedodd un o fynychwyr y digwyddiad, Dr Christophe Declercq (UCL & KU Leuven), academydd sy’n arbenigo ar hanes ffoaduriaid Gwlad Belg y RhB1 ym Mhrydain ac sydd wedi cydweithio â’r prosiect treftadaeth Cymru Dros Heddwch: “Yn ogystal â chofio Leonie, mae hithau Janet Bradshaw yn haeddu canmoliaeth gan ei bod wedi dadorchuddio darn arall yn y jigso o hanes y 250,000 o ffoaduriaid o Wlad Belg a groesawyd i Brydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ac mae’n hanes tra unigryw hefyd. Ymddengys o’r dystiolaeth y bu iddynt dderbyn croeso arbennig o gynnes yng Nghymru ac yn awr, canrif yn hwyrach, mae ymroddiad Janet Bradshaw a’i chymuned i ddadorchuddio hanes Leonie, y ffoadur a aeth yn angof, yn atgof o’r cynhesrwydd a ddangoswyd canrif yn ôl yn ogystal ag yn dysteb i flaengarwch Talacharn i ddadorchuddio ei hanesion cudd. Mawr obeithiaf y bydd cymunedau a haneswyr lleol eraill wedi eu hysbrydoli gan yr esiampl yma ac, os byddant yn canfod straeon am brofiadau ffoaduriaid o Wlad Belg yn eu hardal leol, y byddant yn cysylltu â mi c.declercq@ucl.ac.uk gyda’u hanesion.”

Dengys tystiolaeth Talacharn y bu 12 ffoadur yno, gyda’r mwyafrif yn cyrraedd ym mis Rhagfyr 1914. Ond ychydig fisoedd ar ôl marwolaeth Leonie Demoulin yn 1916, dim ond ei merch-yng-nghyfraith Madam Demoulin (ni wyddid ei enw chyntaf) a’i mab René oedd ar ôl. Fe adawodd gwr Leonie yn fuan ar ôl yr angladd ond ni wyddid i ble yr aeth. Bu i René a’i fam ddychwelyd i Wlad Belg yn 1919 ac erbyn 1930 roedd René wedi ymuno â byddin y wlad gan fod Rosemary yn cofio gweld llun ohono yn ei iwnifform.

Yn anffodus bu i’r groes ar y bedd ddirywio gyda’r croesbren yn disgyn, ond diolch i haelioni crefftwyr lleol a chyfrannodd amser a deunyddiau, fe fydd croes newydd yn cael ei gysegru gan y Parch Christopher Lewis-Jenkins, offeiriad St Martin's, ar yr 20fed o Ionawr 2018.  Un person o bwys yn y gwasanaeth fydd Rosemary Rees a ddywedodd: "Rwyf mor falch fod hwn wedi ei gyflawni, gan fod fy mam-gu a thad-cu mor hoff o’r teulu Demoulin ac wedi cadw cyswllt gyda hwy am flynyddoedd lawer. Yn 1921, aeth fy nhad-cu, Samuel Thomas draw i’w gweld yng Ngwlad Belg gan weld maes y brwydro hefyd.” Yn anffodus ni fydd unrhyw ddisgynyddion i deulu Demoulin yn bresennol oherwydd ofer hyd yma fu unrhyw ymdrech i’w canfod er cysylltu â llyfrgelloedd Antwerp a Chymdeithas Hanes Berchem. Fodd bynnag mi fydd disgynyddion y teulu Deschoolmeester yno, teulu o Wlad Belg a ymgartrefodd yn Sir Gaerfyrddin.

Ychwanegodd Janet Bradshaw: “Bu’n bleser ac yn anrhydedd dadorchuddio’r hanes a gweld y gymuned yn dod ynghyd i osod croes newydd ar ei bedd. Rwy’n siŵr y buasai Leonie Demoulin yn falch o’n hymdrechion, ond efallai y buasai hi, fel fi, yn dal i obeithio rhyw ddydd, os oes disgynyddion, y medrent ddod draw i wybod am ac i ymweld â’i bedd yn Nhalacharn.”

Diolch i grant HLF, bydd Cymdeithas Hanes Talacharn yn cyhoeddi llyfr ar Dalacharn a’r Rhyfel Mawr yn 2018, gan gynnwys pennod ar y Ffoaduriaid o Wlad Belg. 

No comments:

Post a Comment